Tal-y-bont, Ceredigion: Gwefan Cymunedol/Community Websitelluniau/images of Tal-y-bont

Cyflwyniad

Pentref dymunol a saif tua saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, yw Tal-y-bont. Lleolir y pentref ar lecyn gweddol wastad lle y daw tri chwm ynghyd, Cwm Leri, Cwm Ceulan a Chwm Slaid. Mae Tal-y-bont yn bentref o dros 300 o dai, llawer ohonynt yn sefyll ger briffordd yr A487.

Tal-y-bont yw prif pentref cymuned Ceulan-a-maesmawr sydd â phoblogaith o ychydig dros fil o bobl. Ceir hefyd bentref bach Bont-goch sy'n sefyll yn rhan uchaf Cwm Leri, tua 3 milltir o Dal-y-bont. Yn ogystal â'r ddau bentref, mae'r gymuned yn cynnwys nifer o ffermydd mawr a bach.

Yn 1998 datblygwyd fferm wynt ar y bryniau rhwng Bont-goch a Thal-y-bont.

Datblygodd Tal-y-bont yn ystod y 19fed ganrif i wasanaethu'r sector amaethyddol ac fel canolfan i'r diwydiannau gwlan a mwyn. Yn ystod yr 20fed ganrif edwinodd y diwydiannau hyn ac y mae llawer o'r boblogaeth bellach yn teithio'n ddyddiol i Aberystwyth i ennill eu bywoliaeth. Serch hynny mae gan y pentref nifer o fusnesau, dau gapel ac un eglwys, ac ysgol gymunedol lewyrchus[http://www.ysgolccc.org.uk/talybont/]

Cymraeg yw iaith gyntaf mwyafrif y boblogaeth.

Papur bro'r ardal yw Papur Pawb. Papur Pawb oedd y papur bro cyntaf i'w sefydlu yng nghefn gwlad Cymru. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf yn 1974.

Mae'r pentref yn enwog am ei sioe amaethyddol a gynhelir yn flynyddol ar ddiwedd Awst ac am y cwmni cyhoeddi ac argraffu, Y Lolfa.

Nid dyma'r unig bentref o'r enw Tal-y-bont yng Nghymru ac y mae rhai yn cymysgu rhwng ein pentref ni â'r Talybont yn nyffryn Conwy, Talybont, Meirionnydd, a Thalybont-ar-Wysg, Powys.



© Hawlfraint Cymuned Tal-y-bont. Ni cheir atgynhyrchu heb ganiatâd destun neu ddelweddau sy'n ymddangos ar y safle hwn.
Datblygwyd y wefan hwn gyda chymorth ariannol Cyngor Cymuned Ceulan-a-maesmawr
Gweinyddu  Dynluniwyd y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.