Tal-y-bont, Ceredigion: Gwefan Cymunedol/Community Websitelluniau/images of Tal-y-bont

Hanes cryno'r pentref

Ystyr Tal-y-bont yw 'talcen y bont' ac mewn dalgylch fryniog roedd yr ardal lle yr ymunodd yr afon Ceulan â'r Leri yn safle naturiol ar gyfer pentref. Er bod olion y Celtiaid a'r Rhufeiniaid i'w gweld yn y cyffiniau, dim ond ar ddechrau'r 19fed ganrif y datblygodd Tal-y-bont yn un o bentrefi mwyaf sylweddol gogledd Ceredigion. Bellach Tal-y-bont yw prif bentref cymuned Ceulan-a-maesmawr a fu ei hun ar un adeg yn rhan o blwyf ehangach Llanfihangel Genau'r Glyn.

Mae'n debyg fod y Llew Du, un o'r ddwy dafarn sy'n sefyll nesaf at ei gilydd ger patsyn glas y pentref, yn arosfan gyfleus i deithwyr ar y ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth (yr A487 erbyn hyn), ac yn yr ardal hon y datblygodd y pentref yn gyntaf.

Yn y 18fed ganrif adeiladwyd tai hefyd tua chwarter milltir
i'r gogledd o'r patsyn glas ym Mhen-lôn ac erbyn 1830 rhyw 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont, a'r rhai fwyaf yn fythynnod pridd â thoeau gwellt.

Amaethyddiaeth fu cynhaliaeth bwysica'r gymuned dros y canrifoedd ond datblygodd dau ddiwydiant yn ystod y 19fed ganrif a achosodd gynnydd ym mhoblogaeth y pentref ac mewn adeiladu nifer o dai newydd ar hyd y ffordd fawr.

Er y bu rhai'n cloddio am fwyn (plwm) ac arian ers dyddiau'r Rhufeiniaid, yn yr 19fed ganrif y datblygodd y diwydiant yng ngogledd Ceredigion a gwelir ôl rhai o'r gweithfeydd ar hyd a lled y gymuned hyd heddiw. Ar yr un pryd, gan fanteisio ar dd?r o'r afonydd Ceulan a Leri i droi rhodau d?r, datblygwyd nifer o felinau gwlân. Daeth y llewyrch economaidd hwn â gwaith i bobl yr ardal ac adeiladwyd tai teras cadarn ar hyd dwy ochr y ffordd fawr a sefydlwyd sawl siop. Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc, yn ogystal â thri chapel, eglwys ac ysgol yn y pentref. Yn 1923 adeiladwyd y Neuadd Goffa i goffâu'r rhai a fu farw yn Rhyfel Mawr (1914-1918).

Roedd rhai o'r gweithwyr mwyn yn aros mewn baracs ger y mwyngloddiau yn ystod yr wythnos ac yn cerdded i Dal-y-bont ar ddydd Sadwrn i wario'u cyflog yn y siopau ac yn arbennig yn y tafarndai. Roedd rhai o reolwyr ('capteniaid') y mwyngloddiau yn byw yn y pentref, fel Capten Tyrrell a roddodd ei enw i Tyrrell Place, rhes o dai ger y ffordd fawr.

Yn y diwydiant gwlân, byddai rhai gwehyddion yn gweithio o'u cartrefi gydag eraill yn gweithio mewn ffatrioedd. Erbyn 1835 roedd gan Melin Leri beiriannau cribo, stociau pannwr, a nyddwr llaw yn ogystal â nifer o wyddion llaw. Byddai'r wlanen yn cael ei gwerthu'n lleol gan amlaf, i ffermwyr ac i'r mwynwyr plwm, neu yn y ffeiriau yn Aberystwyth, Machynlleth a Thal-y-bont. Ond fe fyddai Thomas Morgan, perchennog Melin Leri, hefyd yn ymweld yn aml â'r Newtown Flannel Exchange lle y gwerthwyd y cynnyrch i ddilledyddion yn Llundain, Amwythig ac i drefi a dinasoedd eraill yn Lloegr.

Roedd y ddau ddiwydiant yn eu hanterth yn y cyfnod rhwng 1830 ac 1890 ond erbyn y 1920au roedd y mwyngloddiau plwm wedi cau ac fe darawodd y Dirwasgiad y melinau gwlân hefyd. Caewyd Melin Ceulan yn yr 1950au ac, ar ddechrau'r 1980au, gwelwyd y felin olaf, Melin Leri, hefyd yn cau. Erbyn yr 1990au yr unig felinau gweithredol yn y gymuned bellach oedd y melinau gwynt sydd i'w gweld ar gopa'r bryniau rhwng Tal-y-bont a phentref Bont-goch.

Erbyn degawdau olaf yr 20fed ganrif, roedd llawer o boblogaeth y pentref yn ennill eu bara menyn yn Aberystwyth ac, unwaith yn rhagor, amaethyddiaeth oedd asgwrn cefn yr economi leol. Fodd bynnag, o ddiwedd yr 1960au ymlaen, datblygwyd cwmni argraffu a chyhoeddi yn y pentref, ac erbyn diwedd y ganrif Y Lolfa oedd prif gyflogwr y pentref.

Ein Canrif


Cyhoeddwyd 'Ein Canrif' i ddathlu'r Mileniwm - llyfr llawn atgofion am Dal-y-bont yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'r holl llyfr bellach ar gael ar y wefan.

Tal-y-bont, c.1900



Y Patsyn Glas, Tal-y-bont, c.1912-15



David Thomas Morgan wrth un o beiriannau Ffatri'r Bont, c. 1900



Melin Cwm wedi iddi gau



Gweithdy'r gof, c. 1900



Cario'r post, c. 1900




© Hawlfraint Cymuned Tal-y-bont. Ni cheir atgynhyrchu heb ganiatâd destun neu ddelweddau sy'n ymddangos ar y safle hwn.
Datblygwyd y wefan hwn gyda chymorth ariannol Cyngor Cymuned Ceulan-a-maesmawr
Gweinyddu  Dynluniwyd y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf.