Sioe Amaethyddol Tal-y-bont
Un o'r digwyddiadau pwysicaf ym mywyd pentref Tal-y-bont a'r cyffiniau yw'r sioe amaethyddol flynyddol, sy'n cael ei chynnal yng Nghaeau'r Llew Du ym mis Awst.
SIOE 2005
Caeau'r Llew Du 27 Awst 2005
Llywyddion: Hywel ac Elizabeth Evans
RHAGLEN Y DIWRNOD
amserlen fras
8.30 y cae ar agor i'r cyhoedd
9.00 barnu adran y ceffylau
10.00 barnu adrannau'r gwartheg, defaid a dofednod
1.00 y Babell ar agor i'r cyhoedd
1.00 beirniadu'r ceffylau gwaith
2.00 y sioe gwn a chystadleuaeth cneifio
3.30 cyflwyno'r tlysau a gwobrau'r da byw
4.30 cyflwyno tlysau'r Babell
5.00 rasys cwn
MYNEDIAD
Mynediad i'r Cae: oedolion: £4.00; pensiynwyr £2.00; plant dan 14 50c
Parcio di-dâl
|
HANES Y SIOE
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol a Garddwriaethol Tal-y-bont a Gogledd Ceredigion ar 19 Chwefror 1896 gyda'r bwriad o gynnal sioe amaethyddol ym mis Medi yr un flwyddyn. Prif amcan y Gymdeithas Amaethyddol oedd cynnig gwobrwyon i denantiaid, rhydd-ddeiliaid a bythynwyr yr ardal rhwng afon Llyfnant ac afon Rheidol yng ngogledd Ceredigion. Bu'r sioe yn llwyddiant mawr o'r dechrau, gyda nifer y dosbarthiadau a'r cynigion yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Rhai o brif atyniadau'r sioeau cynnar oedd rasys ceffylau, trotian ac arddangos ceffylau yn tynnu cerbydau. Er gwaethaf Dirwasgiad y 1920au a'r 1930au cafwyd sioeau nodedig, a chymaint oedd ei chynnydd fel y penderfynwyd ei gwneud yn sioe agored i bobl ac anifeiliaid o'r tu allan i'r ardal. Erbyn hyn roedd y sioe wedi ennill enw da iddi ei hun fel un o'r sioeau gorau yng Ngheredigion, ac yn enwog am ei safon uchel.
Wedi'r Ail Ryfel Byd (1939-1945) daeth newidiadau mawr i'r byd amaethyddol, a'r sioe yn adlewyrchu'r newid hwnnw. Blynyddoedd blin oedd y 1950au o safbwynt y sioe, yn bennaf oherwydd diffyg cefnogeaeth a thywydd gwlyb. Dyma'r cyfnod pan ddaeth nifer o sioeau eraill yng Nheredigion i ben. Fodd bynnag, fe ddaeth y 1960au a bywyd newydd iddi, ac o hynny ymlaen fe ddatblygodd yn un o'r sioeau undydd gorau yng Nghymru.
Mae'n debyg mai cyfrinach ei llwyddiant oedd iddi ddatblygu ac arbrofi ychydig o flwyddyn i flwyddyn yn hytrach na glynu'n gaeth wrth batrwm traddodiadol y sioe. Un o'i nodweddion amlycaf yw mai sioe y bridiau Cymreig fu hi o'r dechrau, yn arbennig y gwartheg duon, y defaid mynydd, y merlod a'r cobiau. Tra oedd sioeau eraill yn troi at fridiau gwahanol glynodd Tal-y-bont wrth y bridiau lleol cynhenid.
Mae'r babell arddwriaethol wedi datbygu'n aruthrol er y 1970au a safon y cynnyrch yn eithriadol o uchel ar adegau. Yn ogystal a'r arddangosfa o hen beiriannau fferm, ychwanegwyd pabell grefftau hefyd, ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Sioe 2000.
Cynhelir y sioe bob blwyddyn ar y Dydd Sadwrn cyn Gwyl Banc Awst ar Gae'r Llew Du yn Nhal-y-bont.
Os am ragor o wybodaeth ar hanes y sioe, gweler y llyfr Bwrlwm Sioe gan Hefin Llwyd. Cyhoeddwyd gan Bwyllgor Sioe Tal-y-bont, 1996. Pris £5